Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2018
Amser:
14.01 -
16.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4751
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Steve Webster, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Allison Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Dr Jacinta Abraham, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Stuart Morris, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Mark Osland, Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas CBE - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.
1.3 Datganodd Lee Waters AC fuddiant ar gyfer Eitem 4 gan fod ei wraig yn gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Steve Webster, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel rhan o'r ymchwiliad i Weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
4.2 Cytunodd Steve Webster i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfran yr arbedion nad oeddent yn digwydd eto yn 2017-18.
5.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Mark Osland, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodeg, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a Stuart Morris, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodeg, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2018 a chytuno arni.